Holl Newyddion A–Y
Arbenigwyr Arthuraidd o Fangor yng Ngŵyl Lenyddol Bradford fis Gorffennaf
Bydd Yr Athro Raluca Radulescu, cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a'r Athro Emeritws P.J.C. Field, Ysgol Llenyddiaeth Saesneg, yn rhoi sgyrsiau i'r cyhoedd ar bwnc Y Brenin Arthur drwy'r Oesau ac Arthur Malory ym myd Tennyson (Radulescu, 1 Gorffennaf, 11:30am a 5:15pm) a Camelod (Field, siarad am ei ddarganfyddiad diweddar o leoliad posibl y Camelod hanesyddol, 1 Gorffennaf, 2:30pm).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2017
Arthur – Arweinydd pawb
Mae’r Arthur chwedlonol yn dal i hawlio ein sylw a’n difyrru hyd heddiw, ac mae’n ymddangos fod ei apêl wedi parhau ar hyd y canrifoedd.
Dyna ddysgodd y gynulleidfa yn ystod lansiad diweddar Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol. Boed yn ddyn o gig a gwaed neu’n chwedl, mae Arthur y brenin neu’r arweinydd, wedi ei defnyddio gan ddiwylliannau ledled Ewrop dros y canrifoedd a fu, ac wedi cyflawni sawl swyddogaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017
Arthurian Place Names in Wales: Lansio Llyfr
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017
Awst 2017
Mae blog cyntaf y Ganolfan wedi cael ei lansio, gyda stori wedi ei hysgrifennu gan gymrawd preswyl cyntaf y Ganolfan, Casey Harris (sy'n cwblhau traethawd hir MA ym Mhrifysgol Villanova, yr Unol Daleithiau).
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017
BAFTA Cymru a Pontio yn cyflwyno rhagddangosiad arbennig o King Arthur: Legend of the Sword
Mae’n bleser gan BAFTA Cymru a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor gyhoeddi rhagddangosiad arbennig o’r ffilm hir-ddisgwyliedig KING ARTHUR: LEGEND ON THE SWORD yn Sinema Pontio Nos Sul, 14 Mai am 8pm.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017
Blog: Dathlu cyhoeddi’r gyfrol newydd 'Arthur in the Celtic Languages'
Roedd Ystafell y Cyngor Prifysgol Bangor dan ei sang ar 28 Chwefror 2019 i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol newydd Arthur in the Celtic Languages.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2019
Blog - Llyfrgelloedd yn yr eira: tair wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.
Ym mis Chwefror a Mawrth 2018, treuliais dair wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio ar Britannicarum Gentium Historiæ Antiquæ Scriptores Tres gan Charles Bertram (1757), gwaith sy'n cynnwys argraffiadau o Gildas a Nennius, a ffugiad gan Bertram o hanes taith gan Richard o Cirencester. Dyma'r stori am hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019
Blog: Sut wnes i ddewis gwneud MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor
Ym Mhrifysgol Fflorida (Gainesville) y dechreuodd fy niddordeb yn chwedlau Arthur. Saesneg oedd fy mhrif bwnc anrhydedd gydag Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar yn ail bwnc, ac roedd rhan o'r gwaith hwnnw yn cynnwys modiwl o'r enw 'Tales of King Arthur' a ddysgwyd gan Dr Judy Shoaf...
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2018
Catalogio’r Casgliad Arthuraidd
Cyrhaeddwyd carreg filltir yn hanes catalogio casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yr wythnos hon, pan gatalogiwyd y 1,000fed llyfr.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017
Cyhoeddi golygiad awdurdodol newydd o Morte Darthur Malory
Le Morte Darthur, a ysgrifennwyd gan Thomas Malory yn y bymthegfed ganrif, yw’r stori Saesneg fwyaf poblogaidd am y Brenin Arthur chwedlonol. Mae'r golygiad newydd hwn yn cyflwyno testun awdurdodol i fyfyrwyr ar bob lefel yn ogystal ag i’r darllenydd cyffredin.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Dadorchuddio gwreiddiau Celtaidd Arthur
Er i bortreadau diweddar o Arthur rhoi iddo acenion Saesneg, Ffrangeg neu hyd yn oed Cocni Llundain, mae llyfr academaidd newydd sydd yn cael ei lansio heddiw (Chwefror 28) ym Mhrifysgol Bangor yn ei leoli’n gryf yng ngwledydd Celtaidd ac yn yr ieithoedd Celtaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019
Disgyblion yn mynd ar daith Arthuraidd
Mae disgyblion o Ysgol Aberconwy wedi bod ar daith ‘Arthuraidd’, i ymchwilio’r grefft o ddweud stori.
 hithau’n ‘Flwyddyn Chwedlau’ Cymru, gwahoddwyd nifer o ddisgyblion Ysgol Aberconwy i gymryd rhan ym mhroject Cwest gan Ganolfan Astudiaethau ArthuraiddPrifysgol Bangor, er mwyn datblygu anturiaethau digidol cyfoes.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2018
Gorffennaf 2017
Yn ystod seremonïau graddio'r brifysgol yng Ngorffennaf derbyniodd yr Athro Raluca Radulescu Gymrodoriaeth Rhagoriaeth Dysgu ar sail ei gwaith addysgu a goruchwylio ymchwil ym meysydd astudiaethau canoloesol ac Arthuraidd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017
Gorffennaf 2017
Yn ystod y 24ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhaliwyd yn Wurzburg fis Gorfennaf eleni, cafwyd cyfraniadau gan aelodau ac aelodau cysylltiol y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor a mannau eraill).
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017
Gotfrit von Straszburg, Trystan 1821
Rydym yn darganfod ychydig o drysorau wrth gatalogio casgliad Aruthuraidd Harries Sir y Fflint. Y trysor diweddaraf yw fersiwn o Trystan gan Gottfried von Strassburg a argraffwyd ar bapur a wnaed â llaw, dyddiedig 1821.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018
Gwobr THELMA
Mae Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor wedi ei enwebu am wobr fawreddog yn y Times Higher Education Leadership and Management Awards (THELMA), a hynny am ei gwaith o estyn allan ac ymwneud â’r gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2017
How King Arthur became one of the most pervasive legends of all time
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Raluca Radulescu o’r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 3 Chwefror 2017
Hydref 2017
Mae project cydweithredol newydd ar y testun 'The Arthurian Quest' wedi derbyn cyllid o Gronfa Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017
Neges Blog: Beardsley Malory
Ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2016 fe wnaeth Dr Samantha Rayner (UCL) a mi ymweld â lle rhyfeddol; drwy garedigrwydd Llyfrgell Prifysgol Bangor a Chanolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr: sef uned storio llyfrau. Yng nghornel ystâd ddiwydiannol yng Ngogledd Cymru, mae'r warws enfawr hwn yn gartref i filoedd o gyfrolau sy'n eiddo i Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2018
Neges blog gan Casey Harris, ymgeisydd MA, Prifysgol Villanova, UDA, cymrawd tymor preswyl cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Gorffennaf 2017
Bu'r mis a dreuliais fel ysgolhaig ymchwil ar ymweliad ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol werthfawr i mi o ran gosod y seiliau ar gyfer y traethawd hir MA. Rwy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Villanova, ac mae fy nhraethawd hir yn ymwneud â hanes Regum Brittaniae Sieffre o Fynwy ...
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2017
Newyddion ar gatalogio y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
Un o brif lwyddiannau’r llyfrgell eleni yw catalogio Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint. Yn awr, caiff ei gynnwys yng nghasgliadau Arthuraidd sylweddol Llyfrgell Prifysgol Bangor, casgliadau sydd eisoes wedi ennill amlygrwydd rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017
Rhodd Arbennig i'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd: Platiau'r Brenin Arthur - Post blog
Ar 13 Chwefror 2018 fe wnaeth y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd groesawu gwesteion eithriadol o hael. Fe wnaeth Mr a Mrs Rawlinson o Wilmslow yn garedig iawn roi set arbennig o blatiau'n rhodd i'r ganolfan er cof am dad Mrs Rawlinson, Yr Athro Roland C. Johnston.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018
Symposiwm undydd: 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt' - post blog
28 Mehefin 2018 cynhaliwyd y symposiwm undydd ‘Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and beyond’. Gan adeiladu ar hanes hir o gydweithio mewn ymchwil, noddwyd y digwyddiad gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth trwy’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC), ac fe’i trefnwyd ym Mangor gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ...
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018
'The Centre for Arthurian Studies in Current Archaeology'
Mae aelod o'r Ganolfan, Scott Lloyd (CBHC) yn ein hysbysu bod y Ganolfan yn cael sylw yn y rhifyn diweddaraf o Current Archaeology.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018
'The Mediaeval Courts of Love' - erthygl blog gan Shan Robinson
Ganed Vyvyan Holland yn Llundain yn 1886 dan yr enw Vyvyan Oscar Beresford Wilde. Roedd yn fab i'r awdur a'r dramodydd nodedig Oscar Wilde, a garcharwyd yn 1895 ar ôl ei gael yn euog o gyhuddiad o 'anwedduster difrifol' oherwydd ei wrywgydiaeth
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2018
Ymgais 2019
Ar 5 Gorffennaf 2019, bydd y Ganolfan yn cynnal gweithdy ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd y digwyddiad newydd hwn, sy'n agored i athrawon ar draws Gogledd Cymru, yn adeiladu ar lwyddiant project llythrennedd “Quest” / “Ymchwil” y llynedd ac yn caniatáu i athrawon ddod i'r Ganolfan i weld ein casgliad gwych o lyfrau a llawysgrifau prin, ac i glywed sgyrsiau gan Yr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, a Gillian Brownson, awdur a storïwraig, ar ddefnyddio'r mythau a'r chwedlau a gynrychiolir yn ein casgliad yn yr ystafell ddosbarth.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2019
Ymgais 2019
Gan adeiladu ar broject peilot llwyddiannus, lle bu disgyblion yn mwynhau llenyddiaeth Arthuraidd ac yn creu eu hymgais 'Arthuraidd' fodern eu hunain, heddiw mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd (5 Gorffennaf 2019).
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Yr Athro Raluca Radulescu yn cyflwyno darlith gwadd i Gymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint
Cyflwynodd yr Athro Raluca Radulescu ddarlith wadd ar y pwnc 'Brenin Arthur yng Nghasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint a Chasgliad Arthuraidd Prifysgol Bangor' ar wahoddiad Cymdeithas Hanes Sir y Fflint ar 24 Mawrth 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2018
Y Tŵr Hud: Wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
Yn y rhamant, caiff Lawnslot ei ddal yn gaeth mewn tŵr gan Morgan Le Fay, ac mae’n difyrru’r amser trwy dynnu lluniau ar y waliau. Ym mis Gorffennaf 2016, cefais innau’r profiad pleserus o gael fy 'nal yn gaeth' mewn tŵr hud, lle nad oedd peryg i mi ddiflasu, oherwydd mai tŵr llawn llyfrau yn Llyfrgell Prifysgol Bangor oedd fy ‘ngharchar’ i.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2017