Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor

Mae Astudiaethau Arthuraidd yn ffynnu ym Mangor er sefydlu’r Brifysgol: mae nifer o weithiau safonol sy’n ganolog i waith yn y maes wedi eu cyhoeddi gan ysgolheigion fu – ac sydd – yn darlithio yma. Wele isod ychydig o wybodaeth am rai o brif ffigyrau’r hanes hwn.

Yr Athro William Lewis Jones (1866–1922)

Athro mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a hefyd Llyfrgellydd. Yn 1891 fe’i hapwyntiwyd yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn Adran Saesneg Coleg y Brifysgol, a daeth yn Athro yn 1897. Bu iddo ran bwysig yn y gwaith o gasglu arian tuag at adeilad newydd y coleg. Cyhoeddodd King Arthur in History and Legend yn 1914.

Syr John Morris-Jones (1864–1929)

Gramadegydd, academydd a bardd oedd Syr John Morris-Jones. Ganed ef yn Llandrygarn, Sir Fôn, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddiodd mewn Mathemateg yn 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Yn Ionawr 1889 fe’i penodwyd yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Gogledd – rhoddwyd iddo gadair athro yn 1895. Chwaraeodd ran flaenllaw yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, pryd enillwyd y Gadair gan T. Gwynn Jones am ei awdl ‘Ymadawiad Arthur’, a’r Goron gan R. Silyn Roberts am y Bryddest ‘Trystan ac Esyllt’

Yr Athro Bedwyr Lewis Jones (1933–1992)

Yr Athro Bedwyr Lewis Jones oedd Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1974 a 1992. Bu’n lladmerydd cryf dros yr iaith yn holl weithgareddau’r Brifysgol. Bu hefyd yn darlithio’n gyson i gymdeithasau llenyddol a chymdeithasau eraill ledled Cymru.

Yr Athro Gwyn Thomas (1936–2016)

Bardd, academydd, a chyn-Fardd Cenedlaethol Cymru oedd yr Athro Gwyn Thomas. Fe’i ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1936 a chafodd ei addysg yn Ysgol Sir Ffestiniog; Coleg yr Iesu, Rhydychen; ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Bu’n darlithio yn Ysgol y Gymraeg hyd ei ymddeoliad fel Athro’r Gymraeg yn 2000. Bu Gwyn Thomas yn Fardd Cenedlaethol Cymru, 2006–2008, a hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig. Enillodd dair gwobr Tir na n-Óg gan Gyngor Llyfrau Cymru – ar y cyd â Margaret Jones – am lyfrau i blant (Culhwch ac Olwen yn 1989, Chwedl Taliesin yn 1993, a Stori Dafydd ap Gwilym yn 2004).

Dafydd Glyn Jones

Mae Dafydd Glyn Jones yn ysgolhaig a geiriadurwr. Treuliodd gyfnod hir fel darlithydd ac wedyn Uwch Ddarlithydd (Iaith Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg) ym Mhrifysgol Bangor. Ymddeolodd o’r brifysgol yn 2000.

Yr Athro P.J.C. Field

Darlithydd yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg oedd yr Athro P. J. C. Field rhwng 1964 a’i ymddeoliad yn 2004. Roedd yr Athro Field yn Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (2002–2005). Cyhoeddwyd ganddo yn 1990 ddiweddariad o olygiad E. Vinaver, The Works of Thomas Malory, ac yn 2013 cafwyd ganddo’r golygiad cyntaf o destun Malory o lawysgrif Winchester ac argraffiad cyntaf Caxton.

Yr Athro Peredur Lynch

Mae’r Athro Lynch yn arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion a golygodd weithiau beirdd fel Einion Wan, Llygad Gŵr a Meilyr Brydydd. Y mae ganddo gyhoeddiadau lluosog ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a chyfrannodd yn helaeth i Cyfres Beirdd y Tywysogion (1991–96), sef y golygiad arloesol cyntaf o waith Beirdd y Tywysogion.

Yr Athro Jerry Hunter

Ac yntau’n frodor o Cincinnati, Ohio, yn ninas ei febyd yr enillodd ei radd gyntaf. Cyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 2000 Soffestri’r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid a roddwyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2001.

Yr Athro Raluca Radulescu

Mae’r Athro Radulescu yn gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS, Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth). Hi yw golygydd cyffredinol cyfnodolyn y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, Journal of the International Arthurian Society a’r Annual Bibliography of the International Arthurian Society.

Dr Aled Llion Jones

Mae monograff diweddar Dr Jones yn ymwneud â thraddodiad proffwydol ehangach y canol oesoedd yng Nghymru, gan gynnwys testunau Arthuraidd. Darogan: prophecy, lament and absent heroes in medieval Welsh literature (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013).