Ein Prosiectau

Prosiectau

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu dwy arddangosfa ar-lein yn ymwneud â'n casgliadau Arthuraidd. Mae'r gyntaf yn arddangos cnewyllyn ein llyfrau prin yn y Saesneg, gan ganolbwyntio ar argraffiadau o Le Morte Darthur Syr Thomas Malory (y bymthegfed ganrif) a'i ddilynwyr hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r ail yn canolbwyntio ar le casgliadau Arthuraidd Bangor (at ei gilydd) yng Nghymru, yn arbennig o safbwynt hanesyddol, yn cynnwys hanes y llyfr. Er y ceir peth gorgyffwrdd amlwg rhwng y projectau hyn, gellir eu dilyn ar wahân drwy'r dolenni isod.

  1. Project Ymgais/Quest 2018
  2. 'Malory and his followers in the Bangor University Arthurian collections and the private collection of Alan Lupack and Barbara Tepa Lupack, Rochester, USA'
  3. ‘Arthur at Bangor and in Wales’ [wrthi'n cael ei llunio]

Prosiectau Ôl-radd

PhD

Mae Elen Ifan yn ymchwilio i T. Gwynn Jones, ac yn benodol i'r berthynas rhwng barddoniaeth a cherddoriaeth yn ei waith. Mae hyn yn cynnwys cyfieithiadau o destunau chwedlonol Gwyddeleg, ac eraill yn ymwneud â thraddodiadau Arthuraidd.

Dyfarnwyd i Ashley Walchester-Bailes ysgoloriaeth bwysig y Brethynwyr. Mae'n ymchwilio i'r adfywiad a'r twf a welwyd yn astudiaethau Arthuraidd o'r 19g ymlaen, gan edrych yn benodol ar brosiectau golygyddol a'r effaith a gawsant ar ddiddordeb poblogaidd ac ysgolheigaidd yn y chwedl yn Saesneg.

Mae Audrey Martin wrthi'n archwilio testunau'r cyfnod Normanaidd ac ôl-Normanaidd. Yn benodol, mae hi'n gweithio ar draddodiadau Sieffreaidd a'u cyd-destun diwylliannol yn y Lloegr amlieithog.

Prosiectau a Chymrodyr Cyfredol

Yn sgil prosiect AHRC/Llyfrgell Brydeinig/UCL, ‘The Academic Book of the Future’, trefnwyd cystadleuaeth gan y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (Cangen Prydain) a Phrifysgol Bangor (Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig). Dr Anastasija Ropa, alumna Bangor (2014), enillodd y wobr o gymrodoriaeth yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, haf 2015. Gweler yma ei hadroddiad ar ei gwaith ar yr argraffiadau prin o Rolleston sydd yng nghasgliad Harries Sir y Fflint.

Prosiectau Impact ac Ehangu Mynediad

Mae Astudiaethau Arthuraidd erioed yn rhan amlwg o weithgarwch academyddion Prifysgol Bangor, wrth iddynt ymwneud â’r cyhoedd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dros y degawdau hefyd, mae nifer fawr o gyfraniadau yn y cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol – o erthyglau amlwg yn y wasg i raglenni dogfen pwysig – wedi derbyn mewnbwn gan ymgynghorwyr arbenigol o  Fangor.

Ers 2015, pan ddechreuwyd ffurfioli gweithgareddau’r Ganolfan, dechreuwyd trefnu ystod ehangach o weithgareddau (rhai academaidd ac eraill sy’n cael effaith uniongyrchol yn y gymuned).

I ddysgu rhagor am ein harbenigedd neu i wahodd un o’n haelodau i gyfrannu i ddigwyddiad, cysylltwch ag un o Gyfarwyddwyr y Ganolfan.

Digwyddiadau diweddar: ysgolheictod ac impact

Y Brenin Arthur: Diwrnod o hwyl i’r teulu. Mehefin 2016

Y Brenin Arthur: Diwrnod o hwyl i’r teulu. Digwyddiad i ddisgyblion ysgol Gwynedd a Môn (blynyddoedd 2 i 6) a ddenodd dros 450 o blant a’u hathrawon, mewn cyd-weithrediad â Chastell Caernarfon (CADW), Llyfrgell, Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor; Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau; Canolfan Astudiaethau Arthuraidd.

Wele rai o’r gweithgareddau:

  • Sgyrsiau a gwers ymarferol ar greu llawysgrifau canoloesol (yr Athro Raluca Radulescu);
  • Cynllunio cestyll 3D â chyfrifiaduron;
  • Perfformiadau a chwedlau canoloesol ac Arthuraidd;
  • Teithiau hanesyddol o gwmpas y castell (Dr Euryn Roberts),
  • Celf a chrefft a llawer mwy.
  • Cafwyd cyfraniadau gan fyfyrwyr MA a PhD Astudiaethau Arthuraidd, a myfyrwyr israddedig sy’n weithgar yng Nghymdeithas y Ddrama Saesneg Prifysgol Bangor, yn ogystal â’r Gymdeithas Ail-Greu, ac aml i ysgol academaidd (Saesneg, Hanes ac Archaeoleg, Addysg).

Diwrnod o Hwyl Ganoloesol, Mehefin 2015

Diwrnod o Hwyl Ganoloesol (trefnwyd gan yr Athro Raluca Radulescu, gyda Shan Robinson, Swyddog Casgliadau Arbennig Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor; staff Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau):

  • Sgyrsiau ar y broses o greu llawysgrifau canoloesol (Arthuraidd) gan yr Athro Radulescu;
  • Chwedlau Arthuraidd;
  • Ymchwil am y Seint Greal yn narllenfa ysblennydd Shankland, Llyfrgell Prifysgol Bangor;
  • Ail-greu brwydr â chledd (gan Gymdeithas Ail-Greu myfyrwyr Prifysgol Bangor);
  • Drama ganoloesol gan Gymdeithas y Ddrama Saesneg Prifysgol Bangor (a berfformiodd ddarn o’r Mabinogion yng Ngŵyl Fringe Caeredin, haf 2015;
  • Arddangosiadau gan CADW, a chyfle i ddysgu am fywyd canoloesol (mewn cyd-weithrediad â John Sherlock, alumnus Prifysgol Bangor a cheidwad Castell Caernarfon).

Lansio casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, Ebrill 2015

Lansio casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, a darlith gyhoeddus gan Dr Roger Simpson, aelod o fwrdd y Ganolfan: ‘Arthur, the King that Never Left Us’.

Croesawyd 80 i’r digwyddiad, ac mae’r ddarlith ar gael yma.