Symposia a Chynadleddau 

Cynhadledd Flynyddol Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol

Bydd aelodau'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, yn staff a myfyrwyr ôl-radd, yn cyflwyno yn y gynhadledd hon, a gynhelir ym Mhrifysgol Birmingham ym mis Medi 2018. Mae'r Ganolfan yn noddi un o'r sesiynau, ac fe fydd aelod allanol o'r bwrdd, Dr Samantha Rayner (UCL) yn cyflwyno rhywfaint o ganfyddiadau ei hymchwil i Archifau'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, sydd bellach ym meddiant y Ganolfan. 

Chwedlau Arthur yng Nghymru a Thu hwnt - Symposiwm

Ddydd Iau 28 Mehefin 2018 cynhaliwyd symposiwm undydd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd dan y teitl 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and Beyond' dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd y symposiwm yn adeiladu ar bortffolio hirsefydlog o waith ymchwil cydweithredol rhyngwladol.   
Darllenwch y blog yn llawn.
Gweld yr oriel.

Trawsnewid yr Oesoedd Canol

Trefnwyd paneli ar destunau Arthuraidd fel rhan o'r gyfres flynyddol o gynadleddau. Cafwyd cyflwyniadau gan fyfyrwyr MA a PhD sy'n gweithio ym maes Astudiaethau Arthuraidd, gan gynnwys Sean Ferguson, myfyriwr MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd, Molly Heaton, myfyrwraig MA mewn llenyddiaeth Saesneg ac Inigo Purcell, myfyriwr MPhil mewn llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Ewch i'r wefan.

Y XXVed Cyngres Arthuraidd Ryngwladol yn Würzburg, yr Almaen, Gorffennaf 2017

Cyflwynodd ysgolheigion ac ymchwilwyr ôl-radd y maes Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal ag aelodau o fwrdd ymgynghorol y Ganolfan, bapurau yn y XXVed Cyngres Arthuraidd Ryngwladol yn Würzburg, yr Almaen ym mis Gorffennaf 2017: Yr Athro P.J.C. Field, yr Athro Raluca Radulescu, Dr Samantha Rayner (UCL), yr Athro Andrew Lynch (Gorllewin Awstralia), Dr Alan Lupack (Rochester), yr Athro C. Larrington (Rhydychen); y Myfyrwyr MA Audrey Martin a Maurita van Droogenbroek.

Ar y gweill

Yr XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol

Fe’i cynhelir bob pedair blynedd ac mae’n cynnig llwyfan ar gyfer arbenigwyr yn holl ystod Astudiaethau Celtaidd – sy’n cynnwys llenyddiaeth, ieithyddiaeth, hanes, archaeoleg, cerddoreg a hanes celf – i ddod ynghyd i rannu ffrwyth eu llafur academaidd.

Ewch i wefan y gynhadledd.

Sesiwn Arthuraidd yn y Gyngres Ganoloesol Ryngwladol, Leeds, Gorffennaf 2019

Bydd sesiwn ar anifeiliaid a diwylliant materol mewn astudiaethau Arthuraidd yn cael ei noddi ar y cyd gan y Ganolfan a Dr Renée Ward (Prifysgol Lincoln, y DU) a Dr Melissa Ridley-Elmes (Prifysgol Lindenwood, UDA)
Gweler yr Alwad Lawn am Bapurau.