Cymrodoriaeth Ymweld P.J.C. Field

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor wedi sefydlu cronfa Cymrodoriaeth Ymweld P.J.C. Field mewn Astudiaethau Arthuraidd.A hithau wedi ei hariannu drwy roddion,nod y gymrodoriaeth waddoledig yw darparu cyfnodau o ymchwil yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, mewn cydweithrediad âLlyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Mae’r gymrodoriaeth ar gael i ysgolheigion y mae eu hymchwil yn cyd-fynd â natur y casgliadau ac arbenigedd ymchwil y ganolfan, ac mae'n agored i ymgeiswyr cymwys ym mhob maes ofewn astudiaethau Arthuraidd. Yn y gorffennol, bu cymrodyr ar ymweliad yn gweithio ar astudiaethau Arthuraidd canoloesol ac ôl-ganoloesol, llyfrau prin y casgliadau, a chysylltiadau rhwng ein casgliadau ac eiddo llyfrgelloedd eraill.   

Bydd y cymrawd yn aros ym Mangor neu’r ardal gyfagos ac yn defnyddio'r casgliadau am gyfnod o rwng wythnos a thri mis. Y cymrawd fydd yn gyfrifol am gostau byw ond, dan amgylchiadau arbennig, gall y gymrodoriaeth dalu costau teithio rhannol neu lawn. Bydd y cymrawd yn cymryd rhan ym mywyd academaidd y ganolfan a'r brifysgol, a thua diwedd y cyfnod preswyl bydd fel arfer yn rhoi cyflwyniad yn seiliedig ar ymchwil a wnaed yn ystod y gymrodoriaeth.  

Os hoffech gyflwyno rhodd,cliciwch ar y dddolenisod:

https://www.bangor.ac.uk/cy/giving/how-to-give

Diolch am gefnogi'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.