Archifau Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol
Mae Archifau Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ac Ymddiriedolaeth Vinaver wedi'u lleoli yng ngofal y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor a Llyfrgell, Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn 2017. Cariwyd dros 30 o flychau’n cynnwys cofnodion a dogfennau o Sefydliad Borthwick, Efrog, lle cawsant eu cadw'n flaenorol. Mae'r archifau'n adnodd cyfoethog ar gyfer astudio hanes y gymdeithas (y gangen a'r gymdeithas ryngwladol) ers ei dechrau hyd at o leiaf 1980. Rhaid gwneud apwyntiad gyda'r Archifydd cyn gweld cynnwys yr archifau. Dylid cyfeirio ymholiadau at yr Archifydd a chyfarwyddwr y Ganolfan.