Arthurian Scenes, charging knights, Lancelot slaying a dragon, Guinevere, Mordred, and King Arthur

Canolfan Astudiaethau Arthuraidd

Ysbrydoli cyfnewid ymchwil ryngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd, o'r canoloesoedd i'r modern

Beth sy'n Newydd?

PJC Field Speaking at podium at conference

Canolfan Astudiaethau Arthuraidd: Dathlu 5 mlynedd, a chodi arian ar gyfer Cymrodoriaeth newydd

Ar 8 Chwefror eleni, daw’r Athro P.J.C. Fieldyn ôl i Brifysgol Bangor i roi darlith gyweirnod, 'Dating the Battle of Badon' ar bumed pen-blwydd lansiad swyddogol y Ganolfan. 

Letters to Sir Ifor Williams featured in Bangor University's Archives and Special Collections

Arddangosfa: Syr Ifor Williams ac Astudiaethau Arthuraidd yng Nghasgliadau Arbennig Archifau Bangor

Aude Martin, myfyrwraig Ph.D., yn archwilio casgliad sylweddol Prifysgol Bangor o waith Syr Ifor Williams, gan ddechrau gyda dau grŵp o lythyrau gan J. Gwenogvryn Evans a Roger S. Loomis.

Medieval manuscript featuring a headless knight, Sir Gawain, and Arthur's court.

Ein Postiad Diweddaraf

Yn ddiweddar, lansiwyd yn y DU y ffilm hirddisgwyliedigd newydd gan A24, Green Knight, gyda Dev Patel yn serennu, i gynulleidfaoedd y DU. Darllenwch ein hadolygiad yma!

Black inked castle landscape

Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Blog

Ar wefan Blog y Ganolfan, cewch wybodaeth am Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys cynadleddau a symposia, a darganfod straeon newyddion, digwyddiadau, ac erthyglau diweddaraf!

Students handling rare books

Ysgoloriaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor

Myfyrwyr newydd yr MA Astudiaethau Arthuraidd yn dysgu am ein llyfrau Arthuraidd prin.

Aled Llion Jones being recorded gesturing at rare books on table

Ysgoloriaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor

Dr Aled Llion Jones yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cyflwyno ein casgliad o lyfrau prin Arthuraidd.

Shan Robinson speaking to crowd of people giving tour in Bangor University

ENGAGING WITH THE PUBLIC

Cydlynydd y Casgliadau Arbennig, Shan Robinson, yn arwain taith i westeion y Ganolfan.

Dr. Roger Simpson, Prof. Raluca Radulescu, Shan Robinson, and others commemorate founding the Flintshire collection

Lansio Casgliad Sir y Fflint gyda Roger Simpson

Dathlu sefydlu casgliad Sir y Fflint ym Mhrifysgol Bangor yn 2015.

Books from Flintshire collection on display

Lansio Casgliad Sir y Fflint gyda Roger Simpson

Sampl bychan o'r llyfrau Arthuraidd o gasgliad Sir y Fflint Prifysgol Bangor.

Peter Field, Raluca Radulescu, Shan Robinson, Aled Jones, and others featured in picture

Dechrau’r Ganolfan

Lansiad y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn 2017, yn cynnwys o'r chwith i'r dde: Shan Robinson, Sue Hodges, yr Athro John Hughes, yr Athro Raluca Radulescu, yr Athro Emeritws P.J.C. Field, a Dr Aled Llion Jones.

Conference with a presentation

Lansio’r Llyfr 'Arthurian Plancenames in Wales'

Cyflwyniad yn symposiwm y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn lansio llyfr gan gydweithiwr y Ganolfan, Scott Lloyd.

Four students looking at medieval manuscripts

Ysgoloriaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn mynd â myfyrwyr yn rheolaidd i ymweld â'r llawysgrifau Arthuraidd rhyfeddol yn Llyfrgell John Rylands, Prifysgol Manceinion.

Arthurian scholars at Symposium 2017

Symposiwm Arthuraidd 2018

Llun o gyfranogwyr gwych Symposiwm Arthuraidd y Ganolfan yn 2018.

Centre for Arthurian studies wide lens show table with bookshelves

Canolfan Astudiaethau Arthuraidd

Mae’r ystafell ddarllen hon yn gartref i gasgliad Sir y Fflint, a roddwyd i Brifysgol Bangor yn 2015.

Paper plate with child's writing on it, featuring medieval shields

Ymchwil Arthuraidd 2018

Prosiect celf gan un o’n cyfranogwyr Ymchwil Arthuraidd yn 2018.

Sword in stone in front of a bookself

SWORD IN THE STONE

This sword in the Stone is featured in the Centre's reading room, used in one of the Centre's many Medieval fun days. 

Prof Raluca Radulescu with students and medieval manuscripts

Ysgoloriaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor

Yr Athro Raluca Radulescu yn dangos ein llyfrau Arthuraidd prin yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor i fyfyrwyr.

Arthurian scholar giving lecture

Ysgoloriaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor

Dr. Ceridwen Lloyd-Morgan yn cyflwyno yn y Symposiwm Arthuraidd yn 2018, a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor.

Prof Raluca Radulescu giving lecture

Ysgoloriaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor

Yr Athro Raluca Radulescu yn traddodir’ ddarlith gyntaf yn y Symposiwm Arthuraidd yn 2018.

MA mewn Astudiaethau Arthuraidd

Students studying medieval manuscripts with Prof Radulescu

Mae'r MA mewn Astudiaethau Arthuraidd yn cynnig rhaglen o fodiwlau wedi'u dewis yn ofalus i'ch tywys trwy'r maes ymchwil rhyngddisgyblaethol cyfoethog hwn a'ch paratoi ar gyfer ymchwil ar lefel uwch. 

Darganfod mwy!

 

Back to Top

Bangor aerial view

Bangor-Rochester Reading Group

The Centre for Arthurian Studies and the Rossell Hope Robbins Library have come together to establish a graduate reading group, covering texts from all walks of Arthuriana.

Sir Gawain riding a horse in full armor

Heinrich von dem Türlin's Diu Crône, or "The Crown"

Diu Crône is a 13th-century romance that tells the story of the grail quest but differs from previous retellings. In this story, Gawain is the knight who achieves the grail after a series of remarkable adventures.

Bwrdd Allanol

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Bryste

Prifysgol Rhydychen

Prifysgol Rochester

Prifysgol Gorllewin Awstralia

Prifysgol Glasgow

Prifysgol Bryste

Image of Dr. Roger Simpson in front of bookshelf

Gyda thristwch mawr yr adroddwn am farwolaeth ddiweddar Dr. Roger Simpson, aelod o Gangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, a chefnogwr a chyfaill mawr i Gangen Gogledd America a chyfrannwr cyson i Arthuriana fel awdur ac adolygydd cyflwyniadau a llyfrau. Cafodd Roger yrfa academaidd wirioneddol anhygoel. Ar ôl ennill BA mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym 1960 o Goleg Wadham, Rhydychen, cwblhaodd Ddiploma mewn Addysg yn Rhydychen ddwy flynedd yn ddiweddarach. Rhwng 1962 a 1963, bu'n Feistr Cynorthwyol Saesneg yn Ysgol Ramadeg Verdin yn Lloegr. Rhwng 1963-1965, bu’n Uwch Feistr Saesneg yn Ysgol Uwchradd Hŷn Old Kampala yn Uganda. Rhwng 1965-1966, dychwelodd i Loegr a gwasanaethu fel Meistr Saesneg Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd y Merched Aylesbury. Rhwng 1966-1968, bu’n Uwch Feistr Saesneg yng Ngholeg Cadetiaid Momenshahi yn Nwyrain Pacistan (Bangladesh bellach). Rhwng 1969-1982, bu'n Uwch Ddarlithydd ac yn Bennaeth Saesneg yng Ngholeg Polytechnig y Gwlff yn Bahrain. Dychwelodd i Loegr ym 1982 i swydd ym Mhrifysgol East Anglia yn Norwich lle bu'n dysgu ac yr arhosodd tan 2003. Ym 1988, cwblhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol East Anglia gyda thesis ynghylch The Arthurian Revival and Tennyson, 1800-1849. Ym 1998, bu'n ysgolhaig gwadd yn yr Amgueddfa Ethnograffeg Genedlaethol yn Osaka, Japan. Ysgrifennodd Roger ddau fonograff Arthuraidd pwysig:  The Arthurian Revival and Tennyson, 1800-1849 (1990) and Radio Camelot:  Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill mae dwsinau o draethodau ac adolygiadau ar agweddau lluosog ar Arthuriana. Ysgolhaig o’r ysgolheigion oedd Roger. Roedd wrth ei fodd â’r gwaith manwl a thrylwyr o ddarganfod gweithiau ac awduron Arthuraidd anghofiedig. A gallai gyflwyno ei ymchwil mewn ffordd gynhwysfawr ac effeithiol a heintio eraill â'i frwdfrydedd dros ei ddarganfyddiadau. Ac, fel y tystia ei ddau lyfr a’i draethodau lu, astudiaethau Arthuraidd a âi â’i fryd ac fe gyfrannodd at hynny mewn diwylliant “uchel” a diwylliant poblogaidd fel ei gilydd. Boed yn ymateb i gwestiynau mewn cynadleddau gan hen gydweithiwr neu gan fyfyrwyr a oedd newydd raddo, roedd Roger bob amser yn batrwm o ddifrifwch, gras a chwrteisi. Ef oedd y mwynaf o’r gwŷr bonheddig. I'r rhai a'i hadwaenai, yr oedd yn gydweithiwr caredig, yn swynol ei groeso, a'r haelaf o ysgolheigion. Fel Clerc Chaucer, yn llawen y dysgodd a dysgodd yn llawen. Ymhlith y rhai a’i goroesodd mae ei wraig, Paddy, a'u mab, Dr St John Simpson, Ceidwad Cynorthwyol Iran, Canolbarth Asia ac Arabia yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Alan Lupack, Cyfarwyddwr Emeritws, Llyfrgell Robbins, Prifysgol Rochester

Barbara Tepa Lupack, Rochester, Efrog Newydd

Kevin J. Harty, Athro Saesneg, Prifysgol La Salle
 

Aelodau Cyswllt

Prifysgol Wisconsin, Madison

Prifysgol East Tennessee

Prifysgol Acadia

Sam Houston State University

Prifysgol De Montfort

Prifysgol Keio

University of Latvia

Ysgolhaig Annibynnol

Ysgolhaig Annibynnol

Boydell & Brewer

*Fill in

Prifysgol Halmstad, Sweden (Cymrawd Ymchwil ar Ymweliad, Chwefror/Mawrth 2018)

Cymrodyr

Brno University

Bangor Alumna and Bristol University, Alumna Prifysgolion Bangor a Bryste, a hefyd Cymrodor o Ganolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr

Prifysgol Halmstad, Sweden (Cymrawd Ymchwil ar Ymweliad, Chwefror/Mawrth 2018)

Prifysgol Belgrad (Cymrawd Ymchwil ar Ymweliad, Ebrill 2018)

Llenyddiaeth Arthuraidd

Ein Cymuned Ymchwil ar Gynnydd: Ôl-raddedigion, Cyn-fyfyrwyr, Cymrodorion ar Ddechrau eu Gyrfa ac Aelodau Cyswllt o'r Ganolfan

PhD yn y 3edd flwyddyn, mewn cyd-diwtoriaeth gan Brifysgol Bangor-Prifysgol Lorraine

PhD yn yr 2il flwyddyn, Prifysgol Bangor

ymgeisydd PhD - cam y cywiriadau ôl-viva

ymgeisydd PhD - cam y cywiriadau ôl-viva

PhD y flwyddyn 1af, Prifysgol Bangor

PhD Bangor 2014, Darlithydd ym Mhrifysgol Latfia

Cyn-fyfyriwr MA 2021

Cyn-fyfyriwr MA 2021

Cyn-fyfyriwr MA 2021

Jessika Brandon 
Merlynn Spencer
 

Hanes y Casgliadau

The Arthurian Collection reading room, Flintshire collection, Special Collections

Mae hanes casgliadau Arthuraidd a Cheltaidd Llyfrgell Prifysgol Bangor yn dyddio i adeg sefydlu'r Brifysgol ei hun yn 1884, pan dderbyniwyd rhoddion gan gymwynaswyr lleol yn ogystal â chan ysgolheigion ac aelodau o staff y Brifysgol.
Yn ddiweddar, bu Llyfrgelloedd Sir y Fflint mor garedig â rhoi eu Casgliad Arthuraidd i Brifysgol Bangor, ac yma bellach y gofalir amdano gan y Gwasanaethau Llyfrgell, Archifau a Chasgliadau Arbennig. Cafodd y casgliad ei roi'n wreiddiol i Lyfrgelloedd Sir y Fflint yn 1952 gan E.R. Harries, cyn-lyfrgellydd y sir, ac ychwanegwyd yn helaeth ato wedyn. Y mae ynddo erbyn hyn dros ddwy fil o eitemau sydd o ddiddordeb i ysgolheigion a darllenwyr cyffredin, ac mae'n cyfoethogi casgliad blaenorol Bangor yn enwedig oherwydd y llyfrau prin. Mae'r holl adnoddau bellach ar gael i mewn un lleoliad, heb orfod teithio rhwng yr Wyddgrug a Bangor. 
Dathlwyd derbyn Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yn 2015 gyda lansiad a darlith gyhoeddus gan Dr Roger Simpson, ac arddangosfa o lyfrau prin o gasgliadau Bangor a Harries Sir y Fflint, dan ofal yr Athro Raluca Radulescu a Shan Robinson [dolen yma].

Back to Top

Sword in plaque in front of bookcases filled with books

Cymrodoriaeth Ymweld P.J.C. Field

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor wedi sefydlu cronfa Cymrodoriaeth Ymweld P.J.C. Field mewn Astudiaethau Arthuraidd.A hithau wedi ei hariannu drwy roddion,nod y gymrodoriaeth waddoledig yw darparu cyfnodau o ymchwil yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, mewn cydweithrediad âLlyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Mae’r gymrodoriaeth ar gael i ysgolheigion y mae eu hymchwil yn cyd-fynd â natur y casgliadau ac arbenigedd ymchwil y ganolfan, ac mae'n agored i ymgeiswyr cymwys ym mhob maes ofewn astudiaethau Arthuraidd. Yn y gorffennol, bu cymrodyr ar ymweliad yn gweithio ar astudiaethau Arthuraidd canoloesol ac ôl-ganoloesol, llyfrau prin y casgliadau, a chysylltiadau rhwng ein casgliadau ac eiddo llyfrgelloedd eraill.   

Bydd y cymrawd yn aros ym Mangor neu’r ardal gyfagos ac yn defnyddio'r casgliadau am gyfnod o rwng wythnos a thri mis. Y cymrawd fydd yn gyfrifol am gostau byw ond, dan amgylchiadau arbennig, gall y gymrodoriaeth dalu costau teithio rhannol neu lawn. Bydd y cymrawd yn cymryd rhan ym mywyd academaidd y ganolfan a'r brifysgol, a thua diwedd y cyfnod preswyl bydd fel arfer yn rhoi cyflwyniad yn seiliedig ar ymchwil a wnaed yn ystod y gymrodoriaeth.  

Os hoffech gyflwyno rhodd,cliciwch ar y dddolenisod.

Diolch am gefnogi'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.

Dewch yn Aelod Cyswllt neu'n Gymrawd o'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

The Lady of the Lake from The Romances of Arthur

Gwyddom fod nifer o unigolion a sefydliadau y tu hwnt i'r Ganolfan Astudiaethau Arthur yn rhannu ein diddordebau, ein nodau a'n dyheadau deallusol. Mae gweithio mewn partneriaeth â'r cydweithwyr a'r budd-ddeiliaid hyn yn hanfodol wrth inni ddatblygu. O'r herwydd, rydym yn cynnig aelodaeth gyswllt i unigolion a sefydliadau mewnol ac allanol sy'n cefnogi ac yn cyfrannu tuag at ein hamcanion hir-dymor. Cynigiwn hefyd statws Cymrawd i unigolion, yng nghyswllt prosiectau mwy byr-dymor.

Cynigir aelodaeth gyswllt a statws cymrawd fel ffordd o wella ein cyrhaeddiad academaidd a'n gallu cydweithredol, o fewn Prifysgol Bangor ac, yn bwysig ddigon, wrth ymgysylltu â rhwydwaith o bartneriaid allanol mewn sefydliadau ymchwil eraill a sectorau perthnasol eraill (e.e., treftadaeth ddiwylliannol; archifau). Bydd ein haelodau cyswllt a'n cymrodyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau cyrhaeddiad y Ganolfan ledled Cymru, ac yn cynorthwyo wrth inni ddangos perthnasedd pellgyrhaeddol a rhyngwladol ein gwaith.

Back to Top

Bwriedir aelodaeth gyswllt ar gyfer cysylltiad gweddol hir-dymor, y gellir ei adnewyddu'n flynyddol. Bydd hyn yn berthnasol nid yn unig i sefydliadau, ond hefyd i ysgolheigion y mae eu prosiectau ymchwil yn berthnasol i gasgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor ac i ddiwylliant ymchwil y Ganolfan. Ni chaniateir aelodaeth gyswllt fel rheol heb dystiolaeth o gyrhaeddiad ysgolheigaidd. Bydd Aelodau Cyswllt unigol yn cyfranogi'n llawn o weithgareddau ymchwil y Ganolfan, ac yn cyflwyno papurau ymchwil yn seiliedig ar eu gwaith yn y Ganolfan.

Cynlluniwyd y cymrodoriaethau byr-dymor hyn (rhwng pythefnos a semester cyfan) i gefnogi prosiectau ymchwil unigol a ddiffiniwyd yn fanwl, ac sy'n berthnasol i gasgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor. Bydd y cymrawd yn derbyn lle i weithio yn y Ganolfan, mynediad i adnoddau'r Brifysgol (gan gynnwys cyfrifiaduron), a chaiff gyfranogi o weithgareddau ymchwil y Ganolfan. Pan ddaw'r gymrodoriaeth i ben, gofynnir am bostiad neu flogiad byr, ar destun y prosiect ymchwil.

Rhaid i unigolion a sefydliadau sydd eisiau gwneud cais am statws aelod cyswllt (neu statws Cymrawd) fedru dangos cyfraniad gweithredol at nodau a dyheadau'r Ganolfan.

Yn achos unigolion gall hyn fod ar ffurf gweithgarwch ymchwil; cyhoeddiadau o safon; addysgu ar lefel addysg uwch; goruchwylio astudiaeth ôl-radd; gwybodaeth am gasgliad(au); ac/neu arbenigedd curadol mewn meysydd sy'n ymwneud â hunaniaeth ddeallusol y Ganolfan.*

Yn achos sefydliadau, cymdeithasau a grwpiau, gall hyn fod ar ffurf blaenoriaethau sefydliadol; gweithgarwch ymchwil; ac/neu arbenigedd curadol mewn meysydd sy'n ymwneud â hunaniaeth y Ganolfan. Gall sefydliadau o'r fath gynnwys archifdai; sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol; canolfannau ymchwil ac endidau academaidd eraill; cymdeithasau hanes/treftadaeth a grwpiau cymunedol; a chyrff sy'n weithredol mewn meysydd cyfagos perthnasol.

*Bydd pob ymchwilydd doethurol ac ôl-ddoethurol, pob cymrawd ymchwil er anrhydedd, pob athro gwadd a phob archifydd proffesiynol a benodir i weithio ar brosiectau sy'n deillio o'r Ganolfan yn dod yn aelod yn awtomatig.

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais. Nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

Dylid anfon ffurflenni cais wedi eu llenwi at arthur@bangor.ac.uk (neu trwy'r post).

Cyhoeddir rhestr o'r aelodau cyswllt ar wefan y Ganolfan Ymchwil.
Cewch wneud cyfraniad ariannol at waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru drwy fynd i'r dudalen berthnasol ar ein wefan.

arthur@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?