Gorffennaf 2017

Yn ystod y 24ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhaliwyd yn Wurzburg fis Gorfennaf eleni, cafwyd cyfraniadau gan aelodau ac aelodau cysylltiol y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor a mannau eraill).

Traddodwyd papurau yn y gynhadledd gan yr Athro Raluca Radulescu a'r Athro Emeritws P.J.C. Field o Fangor, ac o blith aelodau bwrdd allanol y Ganolfan, siaradai yr Athro Andrew Lynch (Prifysgol Gorllewin Awstralia), a etholwyd hefyd yn y gyngres yn Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol); yr Athro Carolyne Larrington (Prifysgol Rhydychen), Dr Alan Lupack (Prifysgol Rochester), a Dr Samantha Rayner (Coleg y Brifysgol Llundain).

Yn cyflwyno hefyd roedd myfyrwyr PhD ac MA Prifysgol Bangor (Audrey Martin a Maurita van Droogenbroek), ac un o gymrodyr presennol y ganolfan, Dr Rebecca Lyons (Prifysgol Bryste). Mewn trafodaeth arbennig a drefnwyd gan Dr Samantha Rayner, aelod o'r bwrdd allanol, a'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, archwiliwyd testunau Arthuraidd o'r cyfnod wedi'r oesoedd canol, a’u trafod yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.

Yn y digwyddiad hwn rhoddodd yr Athro Radulescu sylw i'r gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o raglen digideiddio'r casgliadau Arthuraidd yn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn arbennig yr arddangosfa ar-lein 'Malory ym Mangor ac yn y Byd' sy'n parhau.   

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017