Ymgais 2019

Gan adeiladu ar broject peilot llwyddiannus, lle bu disgyblion yn mwynhau llenyddiaeth Arthuraidd ac yn creu eu hymgais 'Arthuraidd' fodern eu hunain, heddiw mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd (5 Gorffennaf 2019).

Mae'r digwyddiad newydd hwn yn rhannu prif gamau gweithredu'r project llythrennedd “Ymgais”/“Quest” a gynhaliwyd y llynedd. Bu'r Athro Raluca Radulescu, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan yn gweithio gyda'r awdur, y storiwraig a'r Ymarferydd Theatr Gymunedol, Gillian Brownson, a Kate Stuart, sy'n fyfyrwraig PhD mewn astudiaethau'r cyfryngau, i ysbrydoli plant ysgol lleol trwy wneud nifer o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthur.

Dysgodd y disgyblion fod rhai o themâu llenyddiaeth Arthuraidd i'w gweld yn y cyfryngau poblogaidd heddiw. Cawsant gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau gan gynnwys adrodd straeon rhyngweithiol, gemau theatr, gweithdai ysgrifennu a dyddiaduron fideo. 

Bydd yr Athro Raluca Radulescu a Gillian Brownson yn siarad am sut y gellir defnyddio'r chwedlau sydd yng nghasgliad y Brifysgol yn yr ystafell ddosbarth.

Esboniodd yr Athro Radulescu: “Bu'n freuddwyd gennym i ddatblygu'r egwyddorion sy'n greiddiol i'n project yn adnodd y gellir ei ddefnyddio ym mhob ysgol yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, ledled y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Mae'r diddordeb yn y digwyddiadau yr ydym yn eu cynnal i ysgolion ac yn sut mae ein hymchwil wedi cael effaith ar gymdeithas wedi denu sylw newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni dogfen o Japan i'r Unol Daleithiau ac, yn fwy diweddar, yn Rwsia. Ein nod yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yw denu ymchwilwyr rhyngwladol i rannu ein hadnoddau a hyrwyddo cyfnewidiadau ymchwil yn y maes astudio hwn, a sicrhau hefyd  bod y Ganolfan yn agored i gynifer o bobl â phosibl yn y gymuned leol.”

Mae'r gweithdy Quest for Successful Futures: Myth and Arthurian Legend in the Classroom  yn cynnwys: 

  • Ymweliad â'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac Archifau Prifysgol Bangor, gyda chyfle unigryw i drin llyfrau prin a llawysgrifau
  • Arddangosiad o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthuraidd i'w defnyddio gyda myfyrwyr a chyngor un-i-un ar sut i roi'r gweithgareddau hynny ar waith
  • Sgyrsiau arbenigol ar adnoddau'r Ganolfan gan Raluca Radulescu, a chan Gillian Brownson ar fanteision dweud straeon i bob oedran

Mae gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd fynediad at gasgliad heb ei ail o gyhoeddiadau, gan gynnwys cyfrolau prin am faes astudiaethau Arthuraidd; ychwanegwyd at y casgliadau trwy roddion preifat, y dechreuwyd eu gwneud hyd yn oed cyn sefydlu Llyfrgell y Brifysgol, ac mae'r casgliadau wedi parhau i dyfu oherwydd ymroddiad ysgolheigion a llyfrgellwyr Prifysgol Bangor yn gofalu am y stoc.

Ariannwyd y project Ymgais gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://arthur.bangor.ac.uk/index.php.cy

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019