Blog: Sut wnes i ddewis gwneud MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor

Post blog gan y myfyriwr Sean Ferguson, MA in Arthurian Literature, 2017-18.

Ym Mhrifysgol Fflorida (Gainesville) y dechreuodd fy niddordeb yn chwedlau Arthur. Saesneg oedd fy mhrif bwnc anrhydedd gydag Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar yn ail bwnc, ac roedd rhan o'r gwaith hwnnw yn cynnwys modiwl o'r enw 'Tales of King Arthur' a ddysgwyd gan Dr Judy Shoaf. Er bod pob rhan o fodiwl Shoaf yn wych, ei sesiynau ar Malory a'r Ymchwil am y Seint Greal - sef cyfieithiad o gylch Greal Lawnslod - oedd fy ffefrynnau. Yn y sesiynau hyn, edrychom yn fanwl ar y testunau ac edrych ar eu gwleidyddiaeth a'u hysbrydolrwydd, ac ar esblygiad a dygnwch y chwedlau Arthuraidd.

Ers cyrraedd Prifysgol Bangor, rydw i wedi trochi fy hun nid yn unig mewn ysgolheictod Arthuraidd, ond hefyd ym maes Astudiaethau Canoloesol yn gyffredinol trwy seminarau'r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar a digwyddiadau cyhoeddus a gynhelir gan yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg. Yng Nghanolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor  mae casgliad heb ei ail o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd ar chwedlau Arthur, ac mae cael mynediad at y casgliad hwn fel rhan o'm hymchwil wedi bod yn werthfawr ar sawl lefel. Mae rhai uchafbwyntiau'r rhaglen MA yn cynnwys gweithio gyda darlithwyr blaenllaw Bangor, gan gynnwys yr Athro Raluca Radulescu a'r Athro Emeritws PJC Field, teithiau i lyfrgelloedd Manceinion ac Aberystwyth lle gall myfyrwyr weld rhai o'r testunau gwerthfawr sy'n cael eu hastudio yn y modiwlau drostynt eu hunain (yn fwyaf amlwg rhai Sieffre o Fynwy a Malory), a hyblygrwydd y cwrs o ran modiwlau detholiadol.

Mae'r MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mangor yn gwrs unigryw a chyffrous, ac edrychaf ymlaen at barhau ar y daith hon sy'n gyfle unwaith mewn oes.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2018