Gwobr THELMA

Mae Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor wedi ei enwebu am wobr fawreddog yn y Times Higher Education Leadership and Management Awards (THELMA), a hynny am ei gwaith o estyn allan ac ymwneud â’r gymuned. Ymysg y prosiectau y tynnwyd sylw atynt yn y gystadleuaeth oedd ‘Diwrnod o Hwyl y Brenin Arthur’ a’r ‘Diwrnod o Hwyl Ganoloesol’ ym Mehefin 2015 a Mehefin 2016. Bwriad y prosiectau oedd tynnu sylw at Gasgliadau Arbennig Arthuraidd y Llyfrgell a dathlu lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y Brifysgol. 

Anelwyd y digwyddiad cyntaf at deuluoedd, ac fe’i cynhaliwyd yn y Brif Lyfrgell ym mis Mehefin 2015. Cafwyd cymaint o lwyddiant nes penderfynu gwahodd 500 o blant ysgol lleol gyda’i athrawon i Gastell Caernarfon ar gyfer diwrnod yn llawn hanes, addysg, creadigrwydd a hwyl. Roedd gweithgareddau’r ddau ddigwyddiad yn cynnwys gweithdai ar greu llyfrau canoloesol, creu cestyll digidol, llawysgrifen ganoloesol a thaith drysor ar lun yr Ymchwil am y Greal Sanctaidd. Trefnwyd y ddau ddigwyddiad ar y cyd â Choleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a chawsant eu hariannu gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol.

Cyhoeddir yr enillwyr ddydd Iau 22 Mehefin mewn dathliad yng Ngwesty'r Grosvenor House yn Llundain.

Hoffai’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ddymuno pob lwc i dîm y Llyfrgell.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2017