Ymgais 2019

Ar  5 Gorffennaf 2019, bydd y Ganolfan yn cynnal gweithdy ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd y digwyddiad newydd hwn, sy'n agored i athrawon ar draws Gogledd Cymru, yn adeiladu ar lwyddiant project llythrennedd “Quest” / “Ymchwil” y llynedd ac yn caniatáu i athrawon ddod i'r Ganolfan i weld ein casgliad gwych o lyfrau a llawysgrifau prin, ac i glywed sgyrsiau gan Yr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, a Gillian Brownson, awdur a storïwraig, ar ddefnyddio'r mythau a'r chwedlau a gynrychiolir yn ein casgliad yn yr ystafell ddosbarth.

Trefnodd tîm rhagorol y Ganolfan, sef Raluca Radulescu a Gillian Brownson, y  project llythrennedd Quest/Ymchwil hynod lwyddiannus y llynedd ac maent wedi bod yn awyddus i ddatblygu'r egwyddorion y tu ôl iddo i fod yn adnodd nad yw'n gyfyngedig i fyfyrwyr un ysgol, ond yn un y gellir ei ddefnyddio gan bawb yn ysgolion Gogledd Cymru. Mae eu brwdfrydedd dros chwedlau Arthuraidd a'u hymgyrch i agor y Ganolfan i gymaint o bobl â phosibl wedi arwain at a weithdy Datblygiad Proffesiynol Parhaus am ddim sydd wedi'i anelu at athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Ei deitl yw Quest For Successful Futures: Myth and Arthurian Legend in the Classroom.

Bydd y gweithdy’n cynnwys: 

  • Ymweliad â'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac Archifau Prifysgol Bangor, gyda chyfle unigryw i drin llyfrau prin a llawysgrifau
  • Arddangosiad o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthuraidd i'w defnyddio gyda myfyrwyr a chyngor un-i-un ar sut i roi'r gweithgareddau hynny ar waith
  • Sgyrsiau arbenigol ar adnoddau'r Ganolfan gan Raluca Radulescu, a chan Gillian Brownson ar fanteision dweud straeon i bob oedran

Cynhelir y digwyddiad ar  5 Gorffennaf ym Mhrifysgol Bangor, mewn dwy sesiwn:

10:30 - 12:30 ar gyfer athrawon ysgolion cynradd

1:30-3:30 ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd  

Cynhelir y digwyddiad DPP hwn yn Saesneg.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2019