Arthurian Place Names in Wales: Lansio Llyfr
Yn ddiweddar, cynhaliodd Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor ddigwyddiad i ddathlu cyhoeddi Arthurian Place Names in Wales gan Scott Lloyd.
Trwy archwilio cyfoeth o ffynonellau ysgrifenedig o'r canol oesoedd hyd at astudiaethau diweddar, mae'r llyfr newydd hwn, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, yn ystyried amrywiaeth eang o ddeunyddiau sy'n cysylltu'r Brenin Arthur â safleoedd yng Nghymru. Gosodir honiadau am hunaniaeth Arthur a'i deyrnas mewn cyd-destun ehangach, gan roi ystyriaeth briodol i faterion sy'n ymwneud â dyddiadau, awduraeth, effaith a dylanwad. Mae hwn yn ychwanegiad cyffrous at y corff o waith am Arthur, mae hefyd yn cynnwys mynegai daearyddol y safleoedd - gan gynnwys y rhai nad yw eu lleoliad wedi eu nodi eto.
Mae Scott Lloyd wedi bod yn cydweithio ers cyfnod hir â'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n gweithio i'r Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru, ac mae wedi gwasanaethu ar bwyllgor cangen Prydain y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol, sy'n parhau i sefydlu ei hun fel canolfan ryngwladol ymchwil a thrafodaeth, ac yn dod ag amrywiaeth o arbenigedd ynghyd ym mhob agwedd ar astudiaethau Arthuraidd. Mae Scott Lloyd hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o brojectau cydweithredol a drefnir gan y ganolfan, y mae'n aelod ohoni.
Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Raluca Radulescu (cyfarwyddwr y ganolfan) a Dr Aled Llion Jones (dirprwy gyfarwyddwr). Dilynwyd hynny gan gyflwyniad rhagarweiniol gan yr Athro Emeritws P.J.C. Field (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) ac yna rhoddodd yr awdur anerchiad difyr a oedd yn procio'r meddwl am y canfyddiadau yn ei lyfr.
Arddangoswyd llyfrau Arthuraidd, yn cynnwys gweithiau ysgolheigaidd gan staff Bangor yn ogystal ag eitemau prin o'r casgliadau arbennig yn llyfrgell Prifysgol Bangor yn ystod y digwyddiad - gan barhau â chyfranogiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mlwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.
Meddai'r Athro Raluca Radulescu: "Mae'n bleser cynnal y digwyddiad hwn, yn enwedig gan ei fod yn digwydd yn ystod Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru, a chyn i ragolwg arbennig o'r ffilm newydd a drefnwyd gan BAFTA Cymru am Frenin Arthur, a gyfarwyddwyd gan Guy Ritchie ac a ffilmiwyd yn Eryri, gael ei ddangos yn Pontio. Trafodir lleoliadau'r ffilm yn llyfr Scott, ac mae astudiaeth o'r chwedlau a'u hamrywiol ymddangosiadau yn niwylliant Cymru a thu hwnt yn sail i'n cwrs MA unigryw mewn Llenyddiaeth Arthuraidd. Edrychwn ymlaen at ragor o gydweithio yn y dyfodol, ac at ragor o ddiddordeb yng ngogledd Cymru.
Cyhoeddir podlediad o ddarlith Scott Lloyd ar y wefan yn fuan.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017