Mae ffilm hir-ddisgwyliedig newydd A24 Green Knight, gyda Dev Patel yn y brif ran, wedi cael ei ryddhau’n ddiweddar i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig
Mae ffilm hir-ddisgwyliedig newydd A24 Green Knight, gyda Dev Patel yn y brif ran, wedi cael ei ryddhau’n ddiweddar i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig, a hynny’n dilyn gohiriad. Mae’r ddelweddaeth apocalyptaidd yn sgil rhyfel, y naws chwedlonol a delweddau syfrdanol yn dwyn rhybuddion cyfoes am berygl difodiant a dinistr ecolegol i’r meddwl, tra bo’r modd dirgel y cyflwynir Gawain a’r Marchog Gwyrdd yn herio cynulleidfaoedd modern i ystyried eu naïfrwydd posibl eu hunain ynghylch y peryglon sydd wedi codi trwy oruchafiaeth dyn dros fyd natur dros ganrifoedd o ddiwydianeiddio.
Mae'r ffilm wedi’i seilio ar gerdd gyflythrennol Sir Gawain and the Green Knight o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, sy’n berl o lenyddiaeth Saesneg ganoloesol ac yn cyfuno pryderon ynglŷn â pherfformio sifalri ac ymlynu ar yr un pryd wrth werthoedd moesol Cristnogol, a hynny yn erbyn cefndir o fyfyrdodau am dreigl amser (asgwrn cefn y gerdd yw’r flwyddyn galendr), heneiddio a drychfeddwl, yn gyferbyniad â’r gorchestion sifalrig adnabyddus sy’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd modern yng nghyswllt llenyddiaeth Arthuraidd. Mae'r testun, a gyfansoddwyd yn ôl pob tebyg yn Swydd Gaer, ar gyfer llys lleol, yn trafod gwrthdaro rhwng y canol (llys ifanc Arthur) a'r ffin (parth y Marchog Gwyrdd), a drosglwyddir trwy gyfoeth o ddisgrifiadau o ddiwylliant materol, a’r gwahanol foesau a gyflwynir yn y ddau. Mae’r gerdd a’r ffilm yn ymhyfrydu mewn manylder, ac mae’n braf gweld bod craidd y dehongliad yn y pwyslais ar y synhwyrau: tra bo’r testun ysgrifenedig yn rhoi profiad synhwyraidd llawn i’r darllenydd, gyda chyfoeth o weadau, blas, arogl a chyffyrddiad (gyda chyfeiriadau at gyfnewid ag Ewrop a’r Dwyrain pell) yn ei demtio ef/hi o fyfyrio ysbrydol, mae’r ffilm yn denu’r gynulleidfa fodern i fwynhau oedau rhywiol Gawain a themtasiynau pryfoclyd gwraig Bertilak (sef y Marchog Gwyrdd mewn gwirionedd).
Dewisiadau diddorol yn y ffilm yw gweld y prif gymeriadau’n heneiddio ynghyd â’r portread o’r Marchog Gwyrdd. Tra bo cerdd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn portreadu Arthur fel dyn ifanc, penboeth, bachgennaidd (‘childgered’), fel ei holl farchogion eraill, ac mewn angen o ddysg gan y Marchog Gwyrdd aeddfed, mae’r ffilm yn dangos pendraw sifalri, yn gyfrwng i ddinistr yn hytrach na chyflawni delfrydau, gydag Arthur a Gwenhwyfar yn heneiddio, ymhell dros oed gwrhydri ar faes y gad nac yn yr ystafell wely, â golygfeydd o ddinistr enfawr - dyn a natur ill dau wedi'u goresgyn gan alar a thwyll. Mae llawer o'r testun gwreiddiol a'r ffilm yn canolbwyntio ar chwant dynol a'i ôl-effeithiau, ac er nad yw'r gerdd wreiddiol yn amlygu gwrthdaro dyn â natur yn yr un ffordd ag y bydd cynulleidfaoedd modern yn ei weld, uchelgais a breuddwydion dynol am fawredd a choncwest yw’r union bethau sy'n dymchwel sifalri Arthuraidd, a chymdeithas fodern hithau. Mae Gawain yn cael ei demtio’n rhywiol yn y ddau fersiwn, ond eto yn y ffilm mae’r ffaith nad yw’n farchog eto, ac yn amlwg ddim yn barod i fod yn un ychwaith, yn cyfoethogi moesoldeb ei gwest, yn gwylio’n ddiymadferth wrth i’r byd mytholegol (a chewri chwedloniaeth) a buchedd y seintiau (elfen nofel yn y ffilm) bylu’n gyflym ac wrth i’w demtasiynau personol amlygu ei fregusrwydd. Mae’r Marchog Gwyrdd ei hun yn codi nifer o faterion problematig yn y ddau destun; yn y testun gwreiddiol mae'n ddynol, o gorffolaeth anferth, wedi'i wisgo'n hynod o anghyffredin mewn dillad cymhleth a ffasiynol sy'n gweddu i farchog o statws cymdeithasol uchel, ond eto'n droednoeth ac yn dal cangen o gelyn a bwyell, wrth iddo darfu ar olygfa ymddangosiadol heddychlon y llys. Yn y ffilm, mae ei statws yn llai pwysig na'i ffurf sy’n ymdebygu i goeden, addasiad lled Tolkienaidd, sy’n awgrymu coedwigoedd hynafol yn cael eu dinistrio ar gyfer anheddau dynol ac i wasanaethu rhyfeloedd, tra bod ei her hyd yn oed yn fwy cynnil - ei wraig sy’n profi nad yw Gawain yn barod eto i amgyffred ei genhadaeth yn y byd.
Mae’r portread o Gawain yng nghanol dau fyd yn hynod o broblematig ynddo’i hun, a dyma lle mae’r ffilm yn cyfleu pwysigrwydd mewnddrychedd ac ystyriaethau athronyddol ym meddylfryd yr oesoedd canol. Nid yw natur a dynoliaeth mewn gwrthdaro fel y cyfryw, gallai rhywun feddwl, ddim yn agored, o leiaf, yn nealltwriaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg nac yn y gerdd wreiddiol. Serch hynny, mae’r cyfarfyddiad â byd natur yn crybwyll yr angen i feistroli’r helbul mewnol, ac mae gan lys Gawain/Arthur lawer i’w ddysgu gan y sialensiwr o’r tu allan, y Marchog Gwyrdd a’i arglwyddes. Mae’r gerdd yn amlygu’r diffygion mewn sifalri Arthuraidd, ei gydnabyddiaeth arwynebol o ddefodau Cristnogaeth, a pheryglon hunandybus balchder bydol. Nid yw taith Gawain trwy anialdir diffaith, yn ceisio dod o hyd i'r Capel Gwyrdd, cartref honedig y Marchog Gwyrdd, yn ddim ond rhagarweiniad at demtasiynau coeth llys Bertilak (sef y Marchog Gwyrdd, fel y datgelir yn ddiweddarach) a'i arglwyddes. Yn yr un modd fwy neu lai, mae'r ffilm yn gosod yr olygfa’n gyfareddol fel bod rhagwelediad hunllefus Gawain o’r gogoniant sydd o’i flaen yn cyfuno dinistr ac enwogrwydd dibwrpas mewn nifer o fflach-ddelweddau byr a grymus. Mae’r nodweddion hyn oll yn amlygu nid yn unig sut mae’r gerdd ganoloesol a’r ffilm fodern ill dau yn cymell ystyriaeth o’r cyferbyniad rhwng natur a gwareiddiad, ond hefyd y perygl parhaus o wag-rodres yn y byd hwn, sydd wedi dallu llys Arthur, a’r ddynoliaeth fodern hithau hefyd, i gredu eu bod yn anorchfygol, ac wedi arwain at ddinistr helaeth o fyd natur.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2022