Neges blog gan Casey Harris, ymgeisydd MA, Prifysgol Villanova, UDA, cymrawd tymor preswyl cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Gorffennaf 2017

Bu'r mis a dreuliais fel ysgolhaig ymchwil ar ymweliad ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol werthfawr i mi o ran gosod y seiliau ar gyfer y traethawd hir MA. Rwy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Villanova, ac mae fy nhraethawd hir yn ymwneud â hanes Regum Brittaniae Sieffre o Fynwy, a syniadau newydd am ryfeloedd cyfiawn yn ystod y ddeuddegfed ganrif: Golygodd casgliad eang Prifysgol Bangor o waith awduron canoloesol, ynghyd â chasgliad helaeth y brifysgol o weithiau ysgolheigaidd modern ar bynciau canoloesol, fod modd i mi archwilio'r pwnc, cael gwell dealltwriaeth o'r cyd-destun, ac archwilio nifer o ffynonellau o'r ddeuddegfed ganrif mewn mwy o fanylder. Yr elfen fwyaf gwerthfawr, fodd bynnag, oedd casgliad helaeth Bangor o lenyddiaeth Arthuraidd, a dyna oedd prif reswm fy arhosiad ym Mangor. Fe wnaeth y casgliad hwn fy ngalluogi i gymharu nifer o ffynonellau Arthuraidd ochr yn ochr, rhywbeth a oedd wedi bod anodd i mi ei wneud cyn dod i Fangor.

Roedd llawer o'r cynnydd a wnes yn fy ymchwil yn ganlyniad i’r arweiniad a gefais gan staff Bangor: yn ystod fy nghymrodoriaeth ymchwil, gwnaeth yr Athro Raluca Radulescu sylwadau ar sawl agwedd o'm gwaith a darparu mentora academaidd i mi. Hefyd, trwy'r Athro Radulescu deuthum i gysylltiad â sawl aelod arall o'r brifysgol, gan gynnwys myfyrwyr presennol a staff y llyfrgell. Fe wnaeth y cysylltiadau hyn fy ngalluogi i ddarganfod a gwneud gwell defnydd o gyfleusterau’r brifysgol a’r adnoddau ymchwil hynny a oedd ar gael i mi fel ysgolhaig ymchwil ar ymweliad, a manteisio ar ddiwylliant ymchwil Bangor.  Un sy'n haeddu sylw arbennig yw Shan Robinson, y Cydlynydd Casgliadau Arbennig, a roddodd fynediad i mi at nifer o lawysgrifau prin o'r Historia Regum Brittaniae; fy nghyflwyno i adnoddau a systemau'r llyfrgell; a chefais fanylion ganddi am ffynonellau Arthuraidd arbenigol Bangor, gan gynnwys Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint.

Neges blog gan Casey Harris, ymgeisydd MA, Prifysgol Villanova, UDA, cymrawd tymor preswyl cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Gorffennaf 2017

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2017

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2017