Cyhoeddi golygiad awdurdodol newydd o Morte Darthur Malory

Le Morte Darthur, a ysgrifennwyd gan Thomas Malory yn y bymthegfed ganrif, yw’r stori Saesneg fwyaf poblogaidd am y Brenin Arthur chwedlonol. Mae'r golygiad newydd hwn yn cyflwyno testun awdurdodol i fyfyrwyr ar bob lefel yn ogystal ag i’r darllenydd cyffredin. Er hwylustod, hepgorwyd o’r gwaith newydd nodiadau testunol helaeth yr argraffiad ysgolheigaidd a gyhoeddir gan y wasg academaidd flaenllaw, Boydell & Brewer. Lansiwyd y gwaith mawr hwnnw yng nghynhadledd cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol a drefnwyd ym Mhrifysgol Bangor gan gyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Raluca Radulescu, yn 2013.

Mae'r digwyddiad cyhoeddi hwn yn dilyn presenoldeb diweddar Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Lenyddol Bradford. Yma, bu aelodau o’r Ganolfan yn amlwg mewn tri o'r pedwar digwyddiad a ganolbwyntiodd ar y chwedlau Arthuraidd a'u hailadrodd: roedd yr Athro Raluca Radulescu yn aelod arbenigol o’r paneli 'The Arthurian Legend and Its Enduring Appeal' a 'The Lady of Shalott: Tennyson's Camelot', a bu’r Athro Field yn trafod 'Camelot Through the Ages'. Derbyniwyd y gwahoddiadau i'r ŵyl fawreddog hon yn fuan wedi'r sylw helaeth yn y newyddion a gafodd Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor ar ôl ei lansio ym mis Ionawr 2017, i ddathlu traddodiad hirsefydlog y brifysgol yn y maes hwn, a Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru. Roedd y trefnwyr hefyd yn awyddus i roi sylw i ddarganfyddiad yr Athro Field ynghylch lleoliad posib y Camelot hanesyddol, a gyflwynwyd mewn darlith arloesol wrth lansio Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, Prifysgol Bangor, ym mis Rhagfyr 2016.

Bydd aelodau staff ac ôl-raddedigion Arthuraidd Prifysgol Bangor yn cyflwyno eu hymchwil yn y 25ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhelir yn Würzburg, yr Almaen (24-29 Gorffennaf), lle bydd cyflwyniad i’n harddangosfa ar-lein yn rhoi cipolwg i ysgolheigion o bob cwr ar lyfrau Arthuraidd prin y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd a Llyfrgell a Chasgliad Archifau Prifysgol Bangor. Caiff yr arddangosfa hon ei churadu gan yr Athro Radulescu mewn cydweithrediad â Shan Robinson, dirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan, bwrdd ymgynghorol rhyngwladol y ganolfan, aelodau o’r staff, a myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y cwrs MA ar Lenyddiaeth Arthuraidd.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017