Blog - Llyfrgelloedd yn yr eira: tair wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.

Map from Charles Bertram's Britannicarum Gentium Historiæ Antiquæ Scriptores Tres (1757)Map from Charles Bertram's Britannicarum Gentium Historiæ Antiquæ Scriptores Tres (1757)Ym mis Chwefror a Mawrth 2018, treuliais dair wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio ar Britannicarum Gentium Historiæ Antiquæ Scriptores Tres gan Charles Bertram (1757), gwaith sy'n cynnwys argraffiadau o Gildas a Nennius, a ffugiad gan Bertram o hanes taith gan Richard o Cirencester.  Dyma'r stori am hynny.

View from Centre for Arthurian StudiesView from Centre for Arthurian Studies

Yn wreiddiol, roedd gen i gynllun cyfrwys: Byddwn yn gadael Sweden ar ddiwedd tywydd y gaeaf, ac yn mynd i Gymru, fel y gallwn fwynhau'r gwanwyn cynnar a'r cennin pedr rhwng darllen ac ysgrifennu. Gweithiodd hyn yn dda i ddechrau: Cefais groeso cynnes gan fy nghydweithwyr ym Mangor, ac roeddwn wedi setlo i mewn yn hapus iawn i drefn a fyddai'n arwain at gynhyrchu mwy o destun mewn tair wythnos nag ydw i erioed wedi gallu ei ysgrifennu mewn cyfnod mor fyr.

Bob bore, byddwn yn cyrraedd ar y bws - gan fy mod wedi dewis aros y tu allan i'r dref - a mynd i'r ystafell lawysgrifau i dreulio'r bore yn gweithio ar destun Lladin Bertram. Mae darllen a thrawsgrifio Lladin, yn fy marn i, yn waith sy'n gofyn am feddwl ffres, nid un swrth ar ôl cinio. Yr anhawster gyda thestun Bertram yw cael mynediad at y map a greodd. Er mawr lawenydd i mi, ar ôl talu tâl gweinyddol bychan cefais ddiwrnod cyfan yn tynnu lluniau ohono o bob ongl posibl. Gan fod y map, sydd wedi'i blygu yn y llyfr, yn fregus iawn, roedd yn well gennyf ei agor unwaith yn unig yn hytrach na gweithio'n uniongyrchol ohono bob dydd. Cafodd y map ddylanwad pwysig ar syniadau am hanes Rhufeinig Prydain yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n anhepgor ar gyfer unrhyw astudiaeth o ddifri o waith Bertram.

Yn y prynhawn, byddwn yn mynd i fyny i'r Ganolfan yn uchel yn y tŵr, agor y ffenestr i weld yr olygfa ysblennydd dros ddinas Bangor, a chwilota drwy'r silffoedd am ychydig cyn mynd ati i weithio. Er bod Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yn demtasiwn i gymryd egwyl yn awr ac yn y man, byddwn yn gosod cordyn fy ngliniadur dros y cleddyf yn y postyn carreg, ac yna'n mynd ati i ysgrifennu.

College Park, Bangor UniversityCollege Park, Bangor UniversityYn ogystal â meddu ar gopi o Britannicarum Gentium Historiæ Antiquæ Scriptores Tres, mae gan y llyfrgell ddarpariaeth i fynd at gylchgronau digidol o'r 18fed a'r 19eg ganrif fel The Gentleman's Magazine, The Antiquary, a'r British Critic, a oedd yn fy ngalluogi i ddilyn hynt y drafodaeth gyfan ar destun Bertram yn ystod y can mlynedd gyntaf ar ôl ei gyhoeddi. Cefais fynediad i dros hanner cant o destunau, yn cynnwys trafodaethau hir am rinweddau a chywirdeb y testun a llythyrau byr at y golygydd.  Oherwydd hyn llwyddais i orffen fy mhennod ar y derbyniad a gafodd gwaith Bertram. Yn ystod yr wythnosau yn y Ganolfan llwyddais i ysgrifennu 20,000 o eiriau. Dechreuais ysgrifennu papur hefyd ar ddau argraffiad o Nennius gan Bertram, a ddarllenais yn symposiwm y Ganolfan, 'Chwedlau Arthuraidd yng Nghymru a Thu Hwnt', ym mis Mehefin. Rhwng pyliau o ysgrifennu, cefais gyfleoedd i drafod fy ngwaith gyda chydweithwyr gwybodus dros baned. Drwodd a thro, fe wnaeth fy arhosiad yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd gefnogi fy ngwaith i'r fath raddau fel ei bod anodd i mi gredu y byddwn wedi cael yr un gefnogaeth yn rhywle arall.

Wrth gwrs, ni wnaeth gweddill fy nghynllun cyfrwys weithio allan mor dda. Ychydig ddyddiau ar ôl i mi gyrraedd cafwyd eira annisgwyl, heb unrhyw ddŵr yn fy airbnb, a dim golwg o'r cennin pedr oherwydd y tywydd. Ar ôl i mi gyrraedd adref, gwelais fod y gaeaf yn Sweden wedi penderfynu parhau tan fis Ebrill, ac efallai fy mod i'n mynd ychydig yn rhy hen i ddringo dros fynydd o eira i gyrraedd y drws ffrynt. Serch hynny, llwyddais i gael gwybodaeth newydd, pennod orffenedig, a'r pleser o drafod â chydweithwyr yn fy maes. Yn sicr, mae ysgolheigion wedi dioddef mwy am lai.

Dr Kristina Hildebrand, Prifysgol Halmstad

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019