Disgyblion yn mynd ar daith Arthuraidd

Gilliam Brownson,  Richard Burrows a'r Athro Raluca Radulescu gyda'r disgyblion a fu'n cymryd rhan.Gillian Brownson, Richard Burrows a'r Athro Raluca Radulescu gyda'r disgyblion a fu'n cymryd rhan.Mae disgyblion o Ysgol Aberconwy wedi bod ar daith ‘Arthuraidd’, i ymchwilio’r grefft o ddweud stori.

 hithau’n ‘Flwyddyn Chwedlau’ Cymru, gwahoddwyd nifer o ddisgyblion Ysgol Aberconwy i gymryd rhan ym mhroject Cwest gan Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor, er mwyn datblygu anturiaethau digidol cyfoes.

Gweithiodd y grŵp dros gyfnod o wyth wythnos, mewn sesiynau yn eu hysgol ac yn ystod ymweliadau â’r Brifysgol. Y nod oedd ymchwilio i chwedlau a chwestiau drwy wahanol ffyrdd o adrodd straeon, a’r gwahanol gyfryngau y gellir eu defnyddio.

Wrth ymweld â’r Brifysgol, bu i’r disgyblion gyfarfod â’r Athro Raluca Radulescu o Ysgol Saesneg y Brifysgol. Mae’r Athro Radulescu yn arbenigwr ar lenyddiaeth Arthuraidd, a chyflwynodd i’r disgyblion i rai o chwedlau Arthur. Buont hefyd yn gweld rhai o’r llawysgrifau canoloesol a’r llyfrau prin ysblennydd sydd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.

Bu Gillian Brownson yn arwain y Grŵp drwy weithgareddau amrywiol gan gynnwys adrodd straeon rhyngweithiol, gemau theatr, gweithdy ysgrifennu a dyddiaduron ar ffurf fideo. Roedd y rhain i gyd yn herio’r pobol ifanc i feddwl am y syniad o gwest, fel y gwelir yn chwedloniaeth Arthuraidd a sut mae’r un strwythur i’w chael yn ein cyfryngau poblogaidd heddiw.

Bu Gillian Brownson, sy’n Ymarferydd Theatr yn y Gymuned ac yn ysgrifennydd a storïwr profiadol, yn arwain y grwpiau drwy amryfal weithgareddau creadigol – gan gynnwys gweithdai ysgrifennu a pherfformio, creu dyddiaduron fideo, ayyb – er mwyn herio’r disgyblion i feddwl am y dulliau gwahanol y gwelir elfennau o’r Chwedlau Arthuraidd ar waith heddiw. Cafwyd cymorth hefyd gan Kate Stuart, myfyrwraig Ymchwil yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, a fu’n helpu gyda defnydd appiau ar gyfer dweud stori ar ffurf ddigidol.

Cydadrodd y llw o gyfeillach am y tro olaf...Cydadrodd y llw o gyfeillach am y tro olaf...Wedi iddynt greu baneri, tariannau a thyngu ‘llw o gyfeillach’ i’w gilydd, bu’r disgyblion yn ymgymryd â’r appiau digidol ac gweithio mewn grwpiau bychain er mwyn creu nifer o gwestiau gwreiddiol a oedd wedi eu hysbrydoli gan y chwedlau yn Archifau’r Brifysgol.

Meddai Gillian Brownson: “Gwelais hyder y plant a’u diddordeb mewn straeon yn cynyddu yn ystod yr wyth wythnos. Roedden nhw’n dechrau deall beth oedd hanfodion stori dda, ac roedd hyn yn amlwg yn y straeon a rannwyd ganddyn nhw ar ddiwedd y project. Roedd rhai storïwyr naturiol yn eu plith a chafwyd cwestiau anhygoel yn ymwneud ag arwyr mytholegol a modern.”

Dywedodd Richard Burrows,  Prifathro Cynorthwyol yn Ysgol Aberconwy:

“Mae’r project yma wedi bod yn gyfle cyffrous i’n disgyblion. Maent wedi gweithio gydag artist sydd yn adrodd straeon, arbenigwr mewn cyfryngau digidol ac Athro llenyddiaeth Ganoloesol. Mae’r cyfuniad o arbenigeddau a chreadigrwydd yn gyffrous ynddo’i hun: mae wedi ymddiddori ac ysgogi’r grŵp ac maent yn ymchwilio eu straeon mewn sawl ffurf ddiddorol ac annisgwyl. Cefais y pleser o fynd gyda nhw ar eu hymweliad i Brifysgol Bangor. Cawsom groeso cynnes ac roeddwn yn synhwyro cynnydd yn eu disgwyliadau. Roedd yr ymweliad â’r Ganolfan Arthuraidd yn wych iddynt ac roedd cael eu cyflwyno i gymaint o lyfrau arbennig gan Lyfrgellydd y Brifysgol yn rhoi teimlad o werth iddynt, ac roedd yn cyfleu pwysigrwydd stori. Rwy’n edrych ymlaen at ail hanner y project.”

Meddai’r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd:

“Roedd chwedlau Arthuraidd yn boblogaidd ledled Ewrop am gannoedd o flynyddoedd, ac er ein bod efallai yn meddwl bod diddordeb yn y straeon wedi pylu, a dweud y gwir, mae’r straeon yn ddiamser ac yn parhau hyd heddiw. Mae nifer o’r un strwythurau stori, fel y cwest, i’w gael mewn sawl ffurf gyfoes ar ddweud stori, boed drwy ffilm, deledu neu gyfrwng digidol.

Y syniad tu cefn i broject Cwest oedd dangos i bobl ifanc bod straeon yn medru bod yn berthnasol i’w bywydau, a thrwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, i gynyddu eu diddordeb mewn darllen ac adrodd stori.”

“Ein bwriad yw dysgu o brofiad y project a chynnig mwy o brojectau fel hyn i ddisgyblion eraill, sydd yn datblygu sgiliau llythrennedd traddodiadol a hefyd y gallu i ‘ddarllen’ y straeon sydd o fewn cyfryngau eraill fel ffilm, teledu a chyfryngau cyfoes,” ychwanegodd.

Yn ogystal â bod yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer cyfnewid ymchwil ym maes astudiaethau Arthuraidd, mae’r Ganolfan Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau cymunedol, gan gyflwyno i’r hen a’r ifanc y chwedlau Arthuraidd.

Mae gan y Ganolfan fynediad at gasgliad sydd heb ei ail ac sy’n cynnwys argraffiadau prin a astudiaethau Arthuraidd. Mae’r casgliad wedi ei ymestyn gyda rhoddion preifat a gychwynnodd hyd yn oed cyn sefydlu Llyfrgell y Brifysgol, ac sydd wedi parhau i dyfu drwy waith ysgolheigion a gofal llyfrgellwyr Bangor o’r stoc.

Cyllidwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yr ESRC ym Mhrifysgol Bangor.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am wahanol brojectau'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2018