Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Croeso

Mae 'Arthur Bangor, Arthur y Byd' yn arddangosfa ar-lein o gyfrolau a gweithiau celf prin sy'n olrhain hynt y chwedlau Arthuraidd mewn llyfr a llawysgrif o'r cofnodion cynharaf hyd heddiw. Daw'r casgliad o Lyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, a dau brif bartner: Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Dr Barbara Tepa Lupack a Dr Alan Lupack.

Amcan yr arddangosfa yw amlygu safle casgliadau Arthuraidd Prifysgol Bangor yn y byd ysgolheigaidd, gan grynhoi enghreifftiau o waith ysgolheigion o Fangor, ein cyn-fyfyrwyr ac arbenigwyr rhyngwladol. Fe'i bwriedir yn fan cychwyn ar daith drwy'r chwedlau Arthuraidd a thraddodiadau cysylltiedig; gwahoddiad ydyw i ymweld â'r casgliadau ac i barhau â'r ymchwil i'r maes bythol ddiddorol hwn.

Anogir yr ymwelydd yn gyntaf i ystyried yr union gyfryngau a alluogai i'r chwedlau oroesi, a'r dylanwad diwylliannol a gawsant wrth iddynt gael eu cynhyrchu a'u cylchredeg. Mae'r deunydd felly wedi ei drefnu yn ôl cyfnod, o'r canol oesoedd hyd y modern a'r cyfoes. Wrth deithio drwy'r casgliad fel hyn, mae'r detholiad o lyfrau a chelf a welir yn rhoi syniad o'r genres niferus a ddefnyddid gan awduron hysbys ac anhysbys; gwelir hefyd amlochredd y chwedlau, a gaiff eu trosglwyddo a'u mabwysiadu ar draws ieithoedd a ffiniau daearyddol, nes iddynt fagu dylanwad diwylliannol byd-eang.

Mae'r eitemau a welir yma yn rhoi cipolwg yn unig ar y trysorau sydd yn y tri lleoliad: nid yw'n fwriad gennym geisio rhoi trosolwg cyflawn o'r byd Arthuraidd.
Ymhlith y cyfranwyr i waith y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor, mae staff academaidd ac ôl-raddedigion Astudiaethau Arthuraidd ac Astudiaethau Celtaidd; alumni'r brifysgol; ac arbenigwyr allanol. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa yn tanio dychymyg ysgolhaig a lleygwr: gwelir yma rai eitemau sydd yn weddol hysbys, ochr yn ochr â llyfrau prinnach a mwy anghyffredin. Hyderwn y bydd modd cyrraedd cynulleidfa ehangach nag a fyddai'n bosibl yn achos arddangosfa 'go iawn'.

Bydd yr arddangosfa yn tyfu ac yn datblygu: ychwanegir yn fuan eitemau megis blog, a hefyd lyfryddiaeth ar gyfer yr eitemau a arddangosir. Cofiwch gofnodi er mwyn derbyn diweddariadau a bwletinau ynghylch datblygiadau a digwyddiadau a allai fod o ddiddordeb ichi.

 

Site footer